CYFLWYNO'R FFYDD BAHÁ'Í
CYFRES FFEITHIAU SYLFAENOL
Y FFYDD BAHÁ'Í
Mae sawl miliwn o bobl yn y byd yn dilyn crefydd y Ffydd Bahá'í, a'r rheiny'n dod o bob gwlad a phob cefndir.
Mae'r bobl hyn i gyd yn credu yn undod y ddynoliaeth - bod pob person yn bwysig, ac y dylai'r byd fod yn un wlad a redir er lles pawb.
- Maent yn credu mai'r gwahaniaeth rhyngom sy'n gwneud bywyd yn ddiddorol ac y dylem goleddu'r gwahaniaethau hyn yn hytrach na'u hanwybyddu.
- Maent yn credu mai dim ond un crefydd fu erioed - sef crefydd Duw. Anfonodd Duw Ei Negeswyr i wahanol lefydd ar wahanol adegau fel bo modd i bawb yn y byd glywed Amdano.
- Mae pobl Bahá'í yn credu mai dim ond un Duw sydd, er bod gan bobl wahanol enwau Arno. Ni allwn fyth Ei 1wyr ddeall; ni allwn ond dysgu Amdano trwy gyfrwng Ei greadigaeth a'i Negeswyr.
- Mae pobl Bahá'í yn dilyn Baha'u'llah, y diweddaraf mewn cyfres hir o Negeswyr a anfonwyd gan Dduw i ddweud wrthym sut i fyw ac ymddwyn. Ystyr yr enw Baha'u'llah yw Gogoniant Duw. Er Iddo fynd i'r byd nesaf ychydig dros gan mlynedd yn ol, ysgrifennodd Baha'u'llah bopeth y m'ae angen i ni wybod ynglyn a sut i greu gwell bywyd yma ar y ddaear ac yn y byd a ddaw.
- Mae pobl Bahá'í yn credu bod Crist, Muhammad, Buddha, Moses a Krishna i gyd yn Negeswyr gan Dduw.
- Yr un neges sylfaenol oedd gan y Negeswyr hyn i gyd - sef y dylem garu Duw a charu'n gilydd, y dylem fod yn onest, yn eirwir, yn garedig, yn bobl y gellir ymddiried ynddynt ac yn ddiymhongar. Dim ond eu dysgeidiaeth gymdeithasol oedd yn wahanol: a'r rheswm am hyn oedd eu bod wedi eu bwriadu ar gyfer amser a lle penodol. Gan ein bod ni bellach yn rhan o gymdeithas fydeang, mae angen cyfreithiau newydd.
- Addawodd pob un o'r Negeswyr hyn y deuai adeg pan fyddai Negesydd o bwys un dod i ddwyn heddwch i'r byd i gyd. Mae pobl Bahá'í yn credu mai Baha'u'llah oedd y Negesydd hwnnw ac mai rwan yw'r amser i gael heddwch.
CYFLWR Y BYD
Mae pobl Bahá'í yn poeni'n fawr am gyflwr ein byd. Maent yn teimlo bod angen i ni gael agwedd fwy ysbrydol, llai hunanol tuag at y byd hwn a bod angen i ni fyw mewn harmoni a'n hamgylchedd. Lle bynnag y bydd pobl Bahá'í yn byw, byddant yn ceisio cynorthwyo pobl ym mha fodd bynnag y gallant. Os ydyn nhw'n byw mewn pentref yn y Trydydd Byd, byddant yn trefnu prosiect ysgol, ffermio neu iechyd a fydd o fudd i bawb. Ym mhob gwlad mae sawl ffordd y gall y Bahá'í fod yn ddefnyddiol.
Yn anad dim, mae pobl Bahá'í yn gwneud popeth yn eu gallu i hyrwyddo heddwch yn y byd - trwy ymuno a grwpiau eraill a'u cefnogi a chynnig eu syniadau hwy eu hunain ar gyfer cynhadledd heddwch ryngwladol. Dim ond pan fydd gennych heddwch a chydweithrediad y bydd modd datrys nifer fawr o broblemau'r byd.
BYWYD BOB DYDD
Bob dydd, dylai dilynwyr y ffydd Bahá'í droi at Dduw mewn gweddi. Bob bore a bob gyda'r nos, dylent ddarllen ysgrythu- rau Bahá'í, myfyrio arnynt a cheisio'u rhoi ar waith.
Mae nifer o lyfrau'n cynnwys ysgrythur Bahá'í ond dyma ychydig o enghreifftiau ohonynt:
" Trowch eich meddyliau i gyd i gyfeiriad dod a llawenydd i galonnau."
"Ymdrechwch fel bo'ch gweithredoedd o ddydd i ddydd yn weddiau hardd"
"Peidiwch ag ystyried neb yn ddieithryn; yn hytrach, ystyriwch bob dyn yn gyfaill."
"Paid ag anadlu pechodau eraill a thithau'n bechadur dy hun."
"Meddylia bob amser am roi gwasanaeth i bob aelod o'r hil ddynol."
Efallai ei bod hi'n anodd byw yn ol dys- geidiaeth Bahá'í ond ni allwn ond gwneud ein gorau.
Trwy gyfrwng gweddi, byddwn yn dar- ganfod beth y gallwn ei wneud i wella'n hunain a gwasanaethu'n cyd-ddynion a dod o hyd i'r nerth i wneud hynny.
Cred y Bahá'í mai ein diben yn y bywyd hwn yw dysgu a datblygu fel ein bod yn nes at Dduw pan symudwn ymlaen i'r byd nesaf.
BYWYD Y GYMUNED BAHÁ'Í
Bydd pobl Bahá'í yn cyfarfod yn aml i weddio, i drafod materion lleol, i fwyn- hau cwmni ei gilydd ac i ddod i adnabod ei gilydd. Gelwir hyn yn "wledd". Lle na fydd ond ychydig o bobl y Ffydd, byddant yn cyfarfod yng nghartref rhywun. Lle bydd pentref cyfan yn bobl Bahá'í, byddant yn codi canolfan. Mewn rhai mannau yn y byd, mae Tai Addoli mawr sy'n agored i bawb beth bynnag y bo'u crefydd.
Bydd pobl Bahá'í yn aml yn cynnal cyfarfodydd bychain yn eu cartrefi i bobl sy'n dymuno dod i siarad a dysgu mwy am Grefydd Bahá'í. Fel arfer, gelwir y rhain yn "aelwydydd".
Ym mhob ardal leol, bydd y Bahá'í yn ethol cynulliad o naw o bobl sy'n gwneud yn siwr bod popeth yn mynd rhagddo'n llyfn a bod pawb yn hapus. Mae gan bob gwlad gynulliad cenedlaethol a cheir un corff byd eang hefyd.
Y DYFODOL
Mae pobl Bahá'í yn credu y bydd llywodraeth fyd-eang ryw ddydd a fydd yn sicrhau bod pob gwlad yn cael ei thrin yn deg a bod y blaned yn wynebu'r dyfodol mewn cyflwr iach.
Ni fydd gwahaniaethau mawr bryd hynny rhwng y gwledydd cyfoethog a'r gwledydd tlawd, na rhwng pobl gyfoethog a phobl dlawd.
Bydd modd i bob plentyn yn y byd fynd i'r ysgol.
Bydd pawb yn dysgu iaith ryngwladol fel bo modd i ni ddeall ein gilydd yn well.
Bydd menywod yn cael eu trin yn gyfartal a dynion a byddant yn defnyddio'u dylanwad i ddwyn heddwch i'r byd.
Yn y pen draw, pobl y byd sy'n gorfod newid y byd. A rhaid i hynny ddechrau gyda ni'n hunain.
Cyhoeddwyd gan Gynulliad Ysbrydol y Bahá'í yn Warwick.
Cymeradwywyd gan Gynulliad Ysbrydol Cenedlaethol y Bahá'í yng ngwledydd y Deyrnas Gyfunol 27, Rutland Gate Llundain SW7 1PD
Daw pob dyfyniad o ysgrythurau Bahá'í